Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 7 Hydref 2019
Amser:
13.15 -
15.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5625
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Gareth Bennett AC Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC Adam Price AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Gawain Evans, Llywodraeth Cymru Peter Kennedy, Llywodraeth Cymru Shan Morgan, Llywodraeth Cymru David Richards, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru Alison Butler Mike Usher |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Lowri Barrance (Dirprwy Glerc) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2.1 Ystyriodd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a'i nodi, gan gytuno i ofyn am wybodaeth gynhwysfawr am y cynnydd a wneir yn erbyn yr argymhellion ym mis Gorffennaf 2020.
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Shan Morgan - Ysgrifennydd Parhaol, Gawain Evans - Cyfarwyddwr Cyllid, Peter Kennedy - Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, a David Richards - Cyfarwyddwr Moeseg a Llywodraethu, Llywodraeth Cymru ar y craffu ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru 2018-19.
2.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol y byddai'n:
· Anfon nodyn ynghylch gallu Cyfarwyddwyr Anweithredol Llywodraeth Cymru i ymgymryd â rolau sy'n ychwanegol at eu amodau cytunedig;
· Hysbysu'r Pwyllgor o daliadau ychwanegol a wnaed i Gyfarwyddwyr Anweithredol ym mlwyddyn ariannol 2018-19;
· Darparu mwy o wybodaeth am fenthyciadau a buddsoddiadau a ddyfarnwyd yn ystod blwyddyn ariannol 2018-19; ac
· Anfon nodyn ar y tanwariant a ddigwyddodd yn y gyllideb gyfalaf ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.